Llefydd Newid Hinsawdd

Mae Llefydd Newid Hinsawdd yn fforwm ymchwil cydweithredol sy'n uno safbwyntiau o nifer o ddisgyblaethau ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn caniatáu i academyddion, ymchwilwyr a myfyrwyr PhD roi sylw ar y cyd i syniadau’n ymwneud ag ymdeimlad o le mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd.

Mae'r syniad o 'le' wedi'i gydnabod ers amser maith mewn daearyddiaeth ddynol ac mewn meysydd eraill fel cysyniad lleoliadol y mae bodau dynol yn teimlo ymlyniad wrtho mewn rhyw ffordd (e.e., yn emosiynol, yn ddiwylliannol neu trwy ymdeimlad o gyfrifoldeb a pherchnogaeth). Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn fyd-eang ond mae'n cael ei deimlo'n lleol, yn y lleoedd rydym yn byw ac yn teimlo cysylltiad â nhw.

Rydym yn trefnu cyfarfodydd, is-grwpiau thematig a gweithgareddau fel seminarau a sesiynau ysgrifennu ceisiadau am grantiau. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn plocc@bangor.ac.uk. Mae croeso i gyfranogwyr o bob ysgol a choleg yn y brifysgol. Mae’r seminarau yn agored i'r brifysgol a'r cyhoedd yn ehangach, i gael rhagor o wybodaeth cliciwch ar y tab Seminarau.