Seminarau 2021
Abstract - Climate change and renewable energy: the challenge of predicting the future
Mae hanes yn llawn enghreifftiau o'n hobsesiwn â darogan y dyfodol, sy'n parhau heddiw gyda'r defnydd o “uwch” gyfrifiaduron perfformiad uchel. Yma, rwy'n gobeithio archwilio ein gwytnwch rhag newidiadau yn ein tywydd yn y dyfodol a ragwelir gan newid yn yr hinsawdd. Gan ddefnyddio enghreifftiau o risg llifogydd arfordirol a chyflenwad trydan adnewyddadwy; bydd ansicrwydd defnyddio modelau hinsawdd israddio gyda dulliau gwneud penderfyniadau lleol yn cael eu trafod ochr yn ochr ag effaith llunio ymarfer gwydn. Er enghraifft, gall waliau llifogydd leihau'r perygl ond gallant gynyddu'r risg neu arwain at golli cynefin a lleihau mynediad i fan hamdden. O ystyried ansicrwydd mewn polisi, digwyddiadau eithafol yn y dyfodol ac ymddygiad cymdeithasol - sut allwn ni liniaru risgiau yn y dyfodol sy’n cael eu hachosi gan newid yn yr hinsawdd? A ddylem ni? Sut y gellir gwneud hyn mewn ffordd deg a chynaliadwy? Ni fydd y cyflwyniad hwn yn ateb y cwestiynau hyn, yn hytrach byddaf yn darparu rhywfaint o gefndir i bryderon ynglŷn â risg yn y dyfodol o lifogydd arfordirol a thrydan adnewyddadwy a fydd, gobeithio, yn arwain at sgwrs am lunio dyfodol gwydn.
Dr Pelle Tejsner – “Fluctuating weather and changing coastlines: perceptions of climate change on Qeqertarsuaq/ Disko Island”, - 3 Tachwedd 2021
Abstract - Fluctuating weather and changing coastlines: perceptions of climate change on Qeqertarsuaq/ Disko Island
Mae cynhesu byd-eang yn cael effaith gynyddol ar ecosystemau’r Arctig ac ar fywoliaeth y bobl gynhenid. Ar yr un pryd mae’r ffaith bod y rhewlifoedd a’r rhew môr yn toddi yn agor y rhanbarth i ragor o longau, twristiaeth ac echdynnu adnoddau. Mae’r gogledd ambegynol fel “caneri’r golwyr” i wyddonwyr hinsawdd. Rhoddir llawer o sylw i’r rhanbarth yn y wasg y dyddiau hyn, trwy ei bortreadu ar yr un pryd fel 'goror adnoddau' neu 'warchodfa natur' ond beth yw barn cymunedau Inuit lleol am newidiadau o'r fath i'w gorwelion hwythau?
Mae'r cyflwyniad yn gwahodd y gynulleidfa i ystyried profiadau a lleisiau Qeqertarsuarmiut (trigolion Qeqertarsuaq / Ynys Disko) wrth iddynt adfyfyrio ynglŷn â newidiadau ecolegol amlwg y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, trawsnewidiadau cymdeithasol cyflym a llygredd cynyddol, a sut mae'r ansicrwydd hwn yn effeithio ar gysylltiadau cymdeithasol-ecolegol yr Inuit a pharhad bywoliaeth sydd wedi ei seilio ar gynhaliaeth leol.
Abstract - Banks’ Voluntarily commitment to Environmental Sustainability: Pivotal Move or Greenwash?
A yw'r mentrau gwirfoddol yn ddigonol i annog y banciau i gadw eu hymrwymiadau o ran materion yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd a sicrhau economi fwy gwyrdd? Wrth fynd i'r afael â'r cwestiwn mawr hwn, rydym yn paru data ar lefel 56K o fenthyciadau cyfun â data ar lefel 6K o gwmnïau wedi eu rhestr (2002-2020) mewn 82 o wledydd i asesu a yw'r rheolwyr arweiniol, yn benodol felly, llofnodwyr UNEP FI, yn codi llai ar gwmnïau eco-gyfeillgar (gwyrdd) o gymharu â chwmnïau nad ydynt yn eco-gyfeillgar (brown). Mae ein canlyniadau'n dangos bod rheolwyr arweiniol sy’n llofnodwyr UNEP FI yn codi pris sylweddol uwch ar fenthycwyr nad ydynt yn eco-gyfeillgar tra nad yw eu heffaith ar osod prisiau benthyca i fanciau eco-gyfeillgar nac yma nac acw. At hynny, os yw holl reolwyr arweiniol contract benthyca yn aelodau o UNEP FI, byddent yn codi llog 18bp yn is (31bp yn uwch) ar gwmnïau eco-gyfeillgar (nad ydynt yn eco-gyfeillgar). Fodd bynnag, nid yw'r darlun hwn yn gyffredinol wir. O ymchwilio ymhellach trwy ystyried o ba wlad y daw’r banciau arweiniol, gwelwn y byddai banciau arweiniol EU28 yn debygol o godi tâl uwch ar gwmnïau ecogyfeillgar a thâl is ar gwmnïau nad ydynt yn eco-gyfeillgar, tra bod banciau arweiniol UDA yn gweithredu i'r gwrthwyneb. Mae ein canfyddiadau'n dangos na all mentrau gwirfoddol yn unig arwain at unrhyw effaith unffurf nodedig ar osod y premiwm carbon o fewn y mecanwaith prisio benthyciadau wrth wneud penderfyniadau benthyca. Felly, mae angen bod mesurau rheoleiddio gorfodol cyffredinol e.e., gofynion cyfalaf ychwanegol, yn cael eu cyflwyno fel bod yn rhaid i fanciau, ni waeth ble y maent wedi eu lleoli gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol unigryw yn ogystal â'r amcanion corfforaethol. Felly, mae ein hastudiaeth yn cynnig dealltwriaeth newydd i'r llywodraeth ac i reoleiddwyr ariannol a llunwyr polisi wrth fynd i'r afael â'r risgiau amgylcheddol a charbon sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau benthyca.
Abstract - Land use and policy: challenges when ‘place’ interacts with climate mitigation and sustainability
Mae nifer o’r dulliau o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a lliniaru newid yn yr hinsawdd yn heriol i’n ffordd o ddefnyddio tir ac adnoddau naturiol. Ar yr un pryd, mae newid yn yr hinsawdd ynddo’i hun yn gosod straen newydd ar y rhywogaethau a'r ecosystemau hynny yr ydym mor gyfarwydd â hwy yn y dirwedd. Mae newidiadau sylweddol yn debygol o ddigwydd yn ein hoes ni. Bydd Dr Morwenna Spear yn cyflwyno rhai o'r gofynion hyn sy’n gwrthdaro ac yn ystyried sut yr ydym yn rhyngweithio â’r dirwedd yn y Deyrnas Unedig. Beth ydym yn ei drysori a pham? Sut bydd y newidiadau disgwyliedig hyn yn effeithio ar ein gwerthfawrogiad o'r dirwedd? A fyddwn yn croesawu newidiadau i reoli tir os byddant ‘er budd cyffredinol’ neu a ddylai newidiadau o'r fath ddigwydd mewn mannau eraill, o'r golwg?
Abstract - Places of Climate Change: Introducing the idea, and linguistic perspectives
Y seminar ymchwil hon yw'r gyntaf mewn cyfres o sgyrsiau seminar misol y bydd y grŵp hwn yn eu cynnal. Bydd yn cyflwyno'r thema yn gyffredinol, ac yna’n cyflwyno mewnwelediadau mwy penodol o safbwynt ieithyddol ar y pwnc.
Mae'r syniad o 'le' wedi'i gydnabod ers amser maith mewn daearyddiaeth ddynol ac mewn meysydd eraill fel cysyniad lleoliadol y mae bodau dynol yn teimlo ymlyniad tuag ato mewn rhyw ffordd (e.e., yn emosiynol, yn ddiwylliannol neu trwy ymdeimlad o gyfrifoldeb a pherchnogaeth). Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn fyd-eang ond mae'n cael ei deimlo'n lleol, yn y lleoedd rydyn ni'n byw ac yn teimlo cysylltiad â nhw.