Seminarau 2022
14 Rhagfyr - Dr Sioned Williams
'Energised Welsh communities: making connections between place and Community Renewable Energy'
Mae’r cyflwyniad yn trafod canfyddiadau astudiaeth PhD sy’n canolbwyntio ar adnabod beth yw rôl ac ystyr cymuned ac ymlyniad wrth le i gymunedau Cymreig o fewn cyd-destun ynni adnewyddadwy cymunedol, yn y projectau hyn sy’n aml yn seiliedig ar le. Roedd y gwaith yn edrych ar bedair astudiaeth achos a chonsortiwm yng ngogledd a de Cymru. Mae’r astudiaeth yn manylu ar sefyllfa gyd-destunol y projectau ynni adnewyddadwy ar draws yr astudiaethau achos, gan nodi’r berthynas rhwng cymunedau, eu tirwedd ac ynni adnewyddadwy. Archwiliodd yr astudiaeth amrywiaeth o safbwyntiau ynglŷn ag ystyron, profiadau a’r hyn sy’n cynrychioli 'cymuned' a 'lle', gan gynnwys gwahanol fathau o ymlyniad wrth le. Yn bwysig ddigon, roedd y canfyddiadau’n amlygu sut roedd ymlyniad wrth le nid yn unig yn cynnig cyd-destun ar gyfer ymgysylltiad cymunedau â phrojectau ynni adnewyddadwy cymunedol ond hefyd yn llunio’r ymgysylltiad hwnnw. Roedd hyn yn cynnwys sut y defnyddiwyd adnoddau naturiol dros amser mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol
9 Tachwedd - Dr Kate Sherren
‘Climax thinking and landscape transitions for sustainability’
Trosiad yw meddylfryd yr anterth am wrthwynebiad i newid y dirwedd er lles y cyhoedd. Deilliodd o ymchwil seiliedig ar le yn Nghanada Atlantig. Yn yr un modd â damcaniaeth olyniaeth mewn ecoleg, rydym yn aml yn credu bod tirweddau mewn cyflwr delfrydol neu ecwilibriwm (h.y. yr anterth), ac y dylid dychwelyd ato ar ôl pob aflonyddwch megis trychinebau naturiol. Mae angen inni symud at ffordd ddi-ecwilibriwm o feddwl am dirwedd o ystyried yr heriau a wynebwn o ran cynaliadwyedd a'r goblygiadau posibl i’r dirwedd. Dyma gyflwyniad sy’n rhannu gwaith achos ynglŷn â gosod ynni’r gwynt, enciliad yr arfordir a mapio perygl llifogydd i symud o lefel y canlyniad (gwrthiant) i lefel y broses (achosion) y syniad newydd hwn, a’r goblygiadau i ymchwil ac ymarfer.
12 Hydref - Richard Dallison
'Small hydropower in the UK and Ireland: The impact of future climate change on water availability and power generation'
Mae cynlluniau ynni dŵr bach ar afonydd yn sector sy’n tyfu yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Maent yn chwarae rhan fach ond pwysig o ran datgarboneiddio’r grid, cyfrannu at y targedau cenedlaethol i leihau allyriadau, a chynnig buddion cymunedol. Fodd bynnag, mae’r newid yn yr hinsawdd at y dyfodol yn bygwth newid maint llif ac amseriad y dŵr, gan effeithio ar faint o ddŵr sydd ar gael i'w ddefnyddio mewn cynlluniau o'r fath, a’u potensial i gynhyrchu pŵer. Yn ogystal, mae gan Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon reolau gwahanol ar gyfer faint o ddŵr y gellir ei gymryd o’r afonydd ar gyfer ynni dŵr. Mae'r gwahaniaethau yn y rheoliadau cenedlaethol yn effeithio ymhellach ar amseriad a maint y pŵer a gynhyrchir, ac maent yn debygol o arwain at amrywiad yn y ffordd bydd cynlluniau’r gwahanol wledydd yn profi effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
13 Gorffennaf - Dr Kristin Stock and Johanna Richardson
'Sense of Place in New Zealand: Favourite Places, Attractive Places and Cultural Perspectives of Place'
Mae diogelu a chadwraeth ein hoff leoedd yn bwysig fel rhan o les meddyliol a phersonol pobl. Felly, mae gan randdeiliaid yn y llywodraeth ac mewn adrannau cynllunio trefol a rheoli amgylcheddol barch mawr at leoedd y mae iddynt werth diwylliannol, ysbrydol a phersonol sylweddol. Dengys astudiaethau fod pobl yn aml yn teimlo cysylltiad â lleoedd, a’n bod yn defnyddio ardaloedd naturiol cyffredin megis parciau a choedwigoedd i encilio ac ymadfer, gan adfyfyrio ynglŷn ag emosiynau cadarnhaol a negyddol, meddyliau, hwyliau, bywyd, pwrpas, bodolaeth a'r hunan. Yn y cyflwyniad hwn, rydym yn dechrau drwy fynd i'r afael yn gyntaf â chwestiynau allweddol ynglŷn â beth sy’n gwneud hoff le. Ble mae hoff leoedd pobl? Beth mae pobl yn ei werthfawrogi am eu hoff leoedd? Pa weithgareddau y mae pobl yn cymryd rhan ynddynt tra byddant yn eu hoff leoedd? Yn ail, byddwn yn trafod sut y daethpwyd o hyd i hoff leoedd pobl yn Seland Newydd. Ac yn drydydd, byddwn yn trafod canlyniadau ein harolwg ar-lein gan ddatgelu hoff leoedd pobl yn ôl lleoliad, rhanbarth, gweithgaredd, gyda phwy oedden nhw, sut olwg oedd y lle’n edrych, eu meddyliau, eu hatgofion a'u straeon. Byddwn hefyd yn trafod nifer o brojectau eraill sy'n ymwneud â lle yn Seland Newydd, gan gynnwys defnyddio cynnwys a dynnwyd o'r cyfryngau cymdeithasol (Flickr) i werthuso pa mor atyniadol yw lleoliadau o amgylch Seland Newydd; tybiaethau am ystyr lleoliadau diwylliannol ymhlith y Māori yn Seland Newydd yn defnyddio techneg echdynnu testun a'r ffyrdd y mae enwau lleoedd Māori yn datgelu ymdeimlad o le ar draws Ynysoedd Gogledd a De Seland Newydd.
8 Mehefin - Prof. Nicola Walshe
'Eco-Capabilities: exploring pedagogies at the intersection of nature, the arts and wellbeing'
Mae’r rhaglen eco-alluoedd yn broject a ariennir gan yr AHRC ac sy’n ymwneud â thri mater sy’n gorgyffwrdd: pryder â lles plant; eu datgysylltiad ymddangosiadol â'r amgylchedd naturiol; a diffyg ymgysylltu â'r celfyddydau yng nghwricwlwm ysgolion. Mae’n adeiladu ar waith Amartya Sen ar alluoedd dynol fel arwydd o les, gan ddatblygu’r term eco-alluoedd i ddisgrifio sut mae plant yn diffinio’r hyn y maent yn teimlo sydd ei angen arnynt i fyw bywyd dynol da a chyflawn trwy gynaliadwyedd amgylcheddol, cyfiawnder cymdeithasol a lles economaidd yn y dyfodol. Trwy’r rhaglen eco-alluoedd, bu plant o ddwy ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn wyth diwrnod llawn o ymarfer celfyddydau-ym-myd-natur, a ddisgrifir fel celfweddu. Tynnodd yr astudiaeth ar fethodolegau ymchwil seiliedig ar y celfyddydau, arsylwadau’r plant eu hunain, ac ar gyfweliadau a grwpiau ffocws gydag artistiaid, athrawon a phlant. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod elfennau allweddol o arfer celfyddydau-ym-myd-natur yn cyfrannu at ddatblygiad eco-alluoedd plant, yn enwedig sesiynau celfyddyd-ym-myd-natur estynedig ac ailadroddus; ymgorffori ac ennyn diddordeb plant yn affeithiol trwy'r synhwyrau; arafwch sy'n rhoi amser a lle i blant (ail)gysylltu; ac ymarfer meddylgar sy'n hwyluso mynegiant emosiynol. Yn y seminar hon, byddaf yn archwilio sut, trwy’r elfennau hyn, mae ymarfer celfyddydau-ym-myd-natur yn cefnogi lles plant, ac yn eu harwain tuag at berthynas fwy clos â natur a dealltwriaeth gliriach o’u hunain yn rhan ohono, a thrwy hynny eu hysgogi i gymryd gofal gwell ohono.
27 Ebrill - Dr Dana Brablecova
'Urbanisation of Indigenous identities or indigenisation of the city? Reflections on the Mapuche case in Santiago de Chile.'
Mae'r cyflwyniad hwn yn edrych ar ddeinameg grwpiau brodorol yn neilltuo ac ail-ddynodi lle iddynt eu hunain mewn dinasoedd. Mae’r ymchwil yn ymwneud â gweithrediad arferion gofodol grwpiau brodorol o gyrion y ddinas White-mestizo, gan awgrymu bod ffurfiau newydd o drefoldeb perthynol yn (ail)ymddangos sy’n rhagdybio dyfodol cymdeithasol-wleidyddol lluosog ar gyfer y “grwpiau brodorol trefol” hynny, a thrwy hynny oresgyn normadedd mestizo dinasoedd yn y de byd-eang. Yn fwy manwl, a chan ddefnyddio gwybodaeth empirig a gasglwyd trwy waith maes ethnograffig, bydd y seminar yn edrych ar dri dull a ddefnyddir gan grwpiau Mapuche i greu ymdeimlad o berthyn yn y jyngl goncrit: cynhyrchu eu lleoedd brodorol eu hunain, defnyddio symbolau brodorol mewn lleoliadau ac enydau strategol, a goresgyn gofodau gwleidyddol a wrthodwyd iddynt yn flaenorol. Yn y modd hwn, mae'r Mapuche yn rhoi ystyr newydd i'w hunaniaeth ac i'r dinasoedd y maent yn byw ynddynt wrth ffurfweddu'r cysyniad o berthyn i'r hyn sy'n ffurfio'r diriogaeth frodorol bresennol.
9 Chwefror - Dr Sophie Wynne-Jones
'Rewilding: restoring environments, threatening place?'
Rewilding is increasing being promoted as a means to address the interconnected crises of climate change and biodiversity loss. However, from a social perspective, it can be controversial with concerns over the changes to place that could ensue. Experiences in Wales, in particular, demonstrate the strength of opposition felt in some communities. In this talk, I will discuss insights from research conducted with stakeholders in Wales over the last 15 years, centring on the experiences of the Cambrian Wildwood and Summit to Sea projects in Mid-Wales. I will explore the role of place attachment and our associated sense of identity in rewilding conflict, alongside the importance of local values and ways of knowing. Overall, the talk will reflect on the balance between meeting environmental objectives and attending to socio-cultural priorities.