Chwilio am Gydweithredwr
Yr Athro Thora Tenbrink Adran Ieithyddiaeth E-bost: t.tenbrink@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Iaith lle, dadansoddi disgwrs gwybyddol, ymlyniad at le, newid yn yr hinsawdd, agweddau |
Mae Thora Tenbrink yn Athro Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, sy'n defnyddio dadansoddiad ieithyddol i ddeall sut mae pobl yn meddwl. Mae’n awdur “Cognitive Discourse Analysis: An Introduction” (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2020) a “Space, Time, and the Use of Language” (Mouton de Gruyter, 2007), cyd-olygydd tri llyfr ar gynrychiolaeth ieithyddol a deialog, ac mae wedi cyhoeddi tua 40 o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid ym meysydd iaith a gwybyddiaeth. Mae Dadansoddi Disgwrs Gwybyddol (CODA) yn golygu dadansoddi data iaith a gesglir mewn perthynas â meddwl, megis cynrychioliadau meddyliol o olygfeydd neu ddigwyddiadau, neu brosesau datrys problemau cymhleth. Mae ymchwil Tenbrink yn defnyddio'r fethodoleg mewn amrywiaeth eang o brojectau rhyngddisgyblaethol, yn rhychwantu senarios syml yn ogystal â rhai cymhleth iawn, ac yn cynnwys mathau amrywiol o ddata iaith fel protocolau meddwl yn uchel, sylwadau ysgrifenedig, deialog, a llawer mwy. Yn fwy diweddar mae ei ffocws wedi symud o iaith ofodol i iaith lle, yn enwedig mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd ac agweddau tuag at ddiogelu’r lleoedd lle rydym yn byw. Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn fyd-eang ond caiff ei deimlo’n lleol, gan ysgogi'r angen am ddadansoddiad systematig o gynrychiolaeth ieithyddol o le/lleoedd mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, fel rhan o ddisgwrs gyhoeddus a phersonol, ac mewn perthynas ag ymgysylltiad lleol. https://www.bangor.ac.uk/languages-literatures-and-linguistics/staff/thora-tenbrink/en
|
Dr Morwenna Spear Y Ganolfan Biogyfansoddion E-bost: mjspear@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Coed; Strwythurau; Carbon Ymgorfforedig; Hinsawdd y Dyfodol; Effeithlonrwydd Ynni |
Mae Dr Morwenna Spear yn wyddonydd deunyddiau sy'n arbenigo mewn coed a deunyddiau bio-seiliedig. Mae llawer o'i phrojectau ymchwil yn edrych ar ymestyn oes ddefnyddiol coed trwy ddulliau diniwed i’r amgylchedd, neu wella ailddefnyddio ac ailgylchu cynhyrchion pren. Mae Morwenna yn wyddonydd ymchwil ar broject y Ganolfan Ynni Effeithlon Craff, yn gweithio yn y pecyn gwaith Strwythurau Effeithlonrwydd Ynni i ystyried gostyngiadau o garbon ymgorfforedig a gweithredol, gwell effeithlonrwydd ynni a dyluniad adeiladau. Mae hefyd yn arwain projectau ymchwil sy'n datblygu technolegau newydd ar gyfer addasu neu brosesu coed, ac mae hi wedi cynnal nifer fawr o astudiaethau desg ar farchnadoedd coed, cynhyrchion coed sy'n datblygu, tueddiadau o ran tai, dulliau adeiladu modern, swyddogaeth deunyddiau bio-seiliedig mewn cymdeithas yn y dyfodol. Mae gan Morwenna ddiddordeb mewn adeiladu perfformiad a modelu; rheoli hygrosgopedd a lleithder i wella effeithlonrwydd thermol ac ansawdd aer dan do; ac opsiynau ôl-ffitio ar gyfer stociau tai hŷn. Bydd yr adeiladau rydym yn eu hadeiladu yn awr yn dal i sefyll yn 2100, ac yn agored i hinsoddau gwahanol iawn. Mae angen dyluniadau gwydn, ond gan ddefnyddio systemau adeiladu a chyfuniadau deunyddiau sydd â charbon corfforedig is. |
Dr Hayley Roberts Ysgol y Gyfraith Ebost: Hayley.roberts@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Cyfraith y môr; cyfraith ryngwladol; polisi cefnfor; treftadaeth ddiwylliannol; treftadaeth danfor
|
Mae Dr. Hayley Roberts yn gyfreithiwr rhyngwladol sy’n arbenigo yng nghyfraith y môr. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio'n fras ar amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol tanfor a mecanweithiau datrys anghydfodau yng Nghonfensiwn Cyfraith y Môr.
Mae Hayley hefyd yn Gomisiynydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae gan Hayley ddiddordeb yn y modd y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar dreftadaeth ddiwylliannol a sut y gellid cryfhau cyfraith a pholisi ar gyfer addasu, lliniaru ac amddiffyn. Mae ganddi ddiddordeb hefyd yn effaith newid yn yr hinsawdd ar y cefnfor yn ehangach, er enghraifft, colli tiriogaeth y môr/tir oherwydd bod lefelau'r môr yn codi, ac a yw fframweithiau cyfreithiol rhyngwladol yn darparu ar gyfer lliniaru neu foddhad yn y sefyllfaoedd hyn.
https://www.bangor.ac.uk/law/staff/hayley-roberts/cy |
Dr Einir Young Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas E-bost: e.m.young@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: cynaliadwyedd, lles, cenedlaethau'r dyfodol, twristiaeth adfywiol, cydweithredu |
Mae Dr Einir Young yn wyddonydd naturiol; gwnaeth ei gyrfa cyn ymddeol o'i swydd fel Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor fynd â hi i nifer o wledydd, yn cynnwys America (UDA), Zimbabwe a'r gwledydd rhyngddynt (yng Ngorllewin, Dwyrain a de Affrica yn bennaf). Mae'r heriau sy'n wynebu pob cymuned yn debyg - yr angen i wleidyddion gymryd agwedd gyfannol tuag at yr amgylchedd, yr economi, cymdeithas a diwylliannau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu. Mae Einir bellach yn canolbwyntio ar un project - LIVE, project a ariennir gan Interreg Cymru-Iwerddon dan arweiniad UC Cork. Hi yw'r Prif Ymchwilydd ar yr ochr yma i fôr yr Iwerddon, yn cydweithio â Chyngor Gwynedd a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a safleoedd treftadaeth ym Mhen Llŷn i gyd-ddatblygu #Ecoamgueddfa,, yr ecoamgueddfa gyntaf yng Nghymru a'r gyntaf yn y byd i gael ei datblygu’n ddigidol. Nod yr #ecoamgueddfa yw hyrwyddo twristiaeth adfywiol nid echdynnol, gan ddathlu sylfaen adnoddau naturiol, iaith, diwylliant a threftadaeth yr ardal tra’n datblygu economi leol gref sy'n galluogi pobl i barhau i fyw yn eu cymunedau. Mae'n Gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru ac Ynni Llŷn; mae'n ddirprwy Gadeirydd yr Academi Heddwch ac yn aelod o'r Comisiwn Annibyniaeth. HOME | LIVE Ecoamgueddfa (ecomuseumlive.eu) |
Yr Athro Yener Altunbas Ysgol Busnes Bangor E-bost: y.altunbas@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Effeithlonrwydd a gwytnwch y system Bancio; Rheoleiddio; Dadansoddiad o'r farchnad stoc; Economeg ranbarthol; Newid yn yr hinsawdd.
|
Mae'r Athro Yener Altunbaş yn facro-economegydd ac Athro Economeg yn Ysgol Busnes Bangor, mae wedi bod yn swydd hon ers 2007. Mae hefyd yn ymgynghorydd i'r ECB a'r BIS. Ar hyn o bryd, mae'r Athro Altunbaş yn cydweithio ar brojectau ymchwil gydag ymchwilwyr yn y Gronfa Ariannol Ryngwladol. Mae’n awdur nifer o erthyglau ar strwythur ac effeithlonrwydd marchnadoedd bancio, ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys: astudio banciau Ewropeaidd, effeithlonrwydd, dadansoddiad o'r farchnad stoc, llywodraethu corfforaethol, astudiaethau etholiadol, economeg ranbarthol, economeg drefol, a bioleg môr. Mae rhan hanfodol o'i ymchwil yn canolbwyntio ar newidiadau yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r system ariannol. Ar hyn o bryd mae'n ymwneud â phroject MSCA-IF a luniwyd i ymchwilio i ran y system bancio yn cyflawni system economaidd gynaliadwy a gwyrdd gan ystyried y materion amgylcheddol a hinsawdd cynyddol. Mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ECB, mae hefyd yn cymryd rhan mewn project i archwilio effaith cynlluniau rheoleiddio gwyrdd ym maes bancio ar y llif credyd i gorfforaethau sy’n llygru. Mae hefyd yn cynnal ymchwil ar y cyd i archwilio swyddogaeth swyddogion llywodraeth leol Tsieina mewn perthynas â maint dyledion a’u prisio i ddiwydiant sy'n rhoi sylw i’r amgylchedd. |
Dr Atiqur Khan Ysgol Busnes Bangor E-bost: a.khan@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Gwytnwch y system bancio; Rheoliad; Rheoli risg; Cyllid gwyrdd; Newid yn yr hinsawdd. |
Mae Dr Atiqur Khan yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio'n fras ar wytnwch y system ariannol (yn enwedig y sector bancio) mewn cysylltiad â rheoliadau, rheoli risg, cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a dynameg macro-economaidd. Ar hyn o bryd mae'n cydweithio ag ymchwilwyr mewn gwahanol sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Birmingham, y DU; Prifysgol Deakin, Prifysgol Curtin, Awstralia; a Phrifysgol Xiamen, Malaysia. Ar hyn o bryd mae Atiqur yn cymryd rhan mewn project Cymrodoriaethau Unigol Gweithrediadau Marie Skłodowska-Curie (MSCA-IF) gyda'r nod o archwilio swyddogaethau’r system bancio wrth drosglwyddo i system economaidd gynaliadwy a gwyrdd ar sail newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol. Ar yr un pryd, mae'r project yn ymchwilio i wytnwch y system bancio yn ystod proses drosglwyddo o’r fath. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn ymchwil ar y cyd sy'n archwilio swyddogaeth swyddogion llywodraeth leol ar y llif credyd at ddiwydiant ecogyfeillgar/anghyfeillgar yn Tsieina. Mae diddordebau ymchwil Atiqur hefyd yn cynnwys ymchwilio i effaith macro-economaidd ynni adnewyddadwy. Bu'n gysylltiedig â phroject FRGS (a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Malaysia) i archwilio dichonoldeb economaidd biodiesel palmwydd a biodrydan; a'u heffaith ar allyriadau nwyon tŷ gwydr a’u storio, prisiau amaethyddol, cyflogaeth amaethyddol a datgoedwigo sy'n canolbwyntio ar sector amaethyddol Malaysia. |
Dr Alessio Reghezza Ysgol Busnes Bangor E-bost:elx64e@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Polisi ariannol; Polisi macroddarbodus; Sefydlogrwydd ariannol; Bancio empirig. |
Mae Dr Alessio Reghezza yn Ddarlithydd mewn Bancio yn Ysgol Busnes Bangor ac yn Ymgynghorydd ym Mholisi Macroddarbodus Cyfarwyddiaeth Cyffredinol a Sefydlogrwydd Ariannol Banc Canolog Ewrop (ECB). Mae ei ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â pholisi ariannol, polisi macroddarbodus, sefydlogrwydd ariannol ac, yn ehangach, bancio empirig. Cyhoeddwyd ei bapurau mewn cyfnodolion academaidd rhyngwladol gan gynnwys: Journal of Banking and Finance, Journal of International Money and Finance, European Financial Management a Journal of Financial Services Research. Mae ei allbwn ymchwil wedi denu sylw llunwyr polisi ac wedi cael sylw mewn nifer o gyfryngau gan gynnwys Financial Times, Bloomberg, LeMonde, CNN, NBC ac ati. Ar hyn o bryd, mae hefyd yn ymwneud ag ymchwil i archwilio’r cysylltiadau rhwng polisi macroddarbodus a sefydlogrwydd y system ariannol gyda’r senarios newid yn yr hinsawdd ac amgylcheddol cynyddol. |
Dr Matt Lewis Ysgol Gwyddorau'r Eigion E-bost: m.j.lewis@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Eigioneg; Ynni adnewyddadwy; newid yn yr hinsawdd; risg llifogydd; data amgylcheddol |
Eigionegydd yw Dr Matt Lewis, gyda chefndir mewn modelu systemau daear a digwyddiadau eithafol (e..e sut i ddefnyddio gwybodaeth o ddata modelau hinsawdd i ddeall risg yn y dyfodol?). Mae Matt ar Rwydwaith Arbenigol Amgylchedd Digidol NERC, CoI i broject Gwytnwch Hinsawdd NERC UK ar risg llifogydd yn y dyfodol (NE/V004239/1) ac yn Gymrawd Ymchwil EPSRC ar ynni adnewyddadwy (EP/R034664/1). Yn y gorffennol, mae Matt wedi gweithio ar gyfieithu llên gwerin Maori i ddeall gwytnwch i risg tsunami a phroject a ariennir gan Lywodraeth Cymru “Redesigning Resilience: translating ancient knowledge for a resilient future”. Mae gan Matt ddiddordeb mewn sut mae cymunedau yn cael eu heffeithio gan y tywydd, nid yr hinsawdd, a sut y gellir defnyddio'r wybodaeth hon i lywio gwytnwch i ddigwyddiadau eithafol - ond hefyd i ddarparu systemau ynni cynaliadwy a dibynadwy. Hoffai Matt archwilio syniadau o wella sut y gallwn gasglu data amgylcheddol (bioamrywiaeth neu amrywioldeb naturiol systemau), trwy gyfieithu caneuon, mapiau a mytholeg lafar; er enghraifft y data cudd sydd wedi ei ddibrisio o fewn traddodiadau ac arferion llafar, a all lywio cofnodion data amgylcheddol yn well https://vimeo.com/514206498 |
Yr Athro Louise M. Hassan Ysgol Busnes Bangor
E-bost: l.hassan@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Defnyddwyr, ymlyniad wrth le, defnydd cynaliadwy, defnydd peryglus, agweddau a chymhelliant |
Mae Louise Hassan yn Athro Seicoleg Defnyddwyr yn Ysgol Busnes Bangor. Mae wedi cyhoeddi 40 o erthyglau mewn cyfnodolion. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar seicoleg defnyddwyr o fewn meysydd iechyd a chynaliadwyedd. Mae ganddi ddiddordeb mewn lle o sawl safbwynt gan gynnwys defnyddio lle i farchnata cynhyrchion, y cysylltiad rhwng lle ac ymddygiadau defnydd penodol, lle a diwylliant a'u swyddogaeth wrth wneud penderfyniadau, a deall y broses o ymlyniad wrth le. Prof Louise Hassan | Bangor Business School | Bangor University |
Dr Sara Parry Ysgol Busnes Bangor Ebost: s.parry@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Marchnata busnesau bach a chanolig, cyd-destun gwledig, ymlyniad wrth le, defnydd peryglus, defnyddwyr. |
Mae Dr Sara Parry yn Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ei diddordebau ymchwil yn amrywio o farchnata busnesau bach a chanolig mewn cyd-destunau gwledig, i ymddygiad defnyddwyr ac ymlyniad wrth le gyda ffocws penodol ar ymddygiadau peryglus fel ysmygu a goryfed mewn pyliau. |
Yr Athro Simon Willcock Ysgol Gwyddorau Naturiol E-bost: s.willcock@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Gwasanaethau ecosystemau; Cyfraniadau natur i bobl; Trobwyntiau; Newid yn yr hinsawdd; Cynaliadwyedd |
Mae'r Athro Simon Willcock yn wyddonydd rhyngddisgyblaethol, sy'n awyddus i gynhyrchu allbynnau yn y byd go iawn y gellir eu defnyddio mewn nifer o gyd-destunau polisi a busnes. Mae ei ddiddordebau penodol yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng pobl a natur, yn y DU a thramor. Mae projectau Simon yn amrywio ar draws y gwyddorau caled i'r celfyddydau (e.e. gyda grantiau blaenorol gan GCRF, NERC, ESRC, ac AHRC), ond maent yn canolbwyntio ar wasanaethau ecosystemau (cyfraniadau natur i bobl) a defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol mewn ardaloedd gwledig a threfol. I wneud hyn, mae'n defnyddio dulliau arloesol, fel ffonau clyfar a dysgu peirianyddol. Er enghraifft, roedd ei broject MobilES a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn defnyddio ffonau clyfar (trwy ddull 'microdaliadau am ficrodata') i gynnal arolygon wythnosol ar wasanaethau ecosystemau (yn cynnwys cwestiynau ar ddiogelwch bwyd a dŵr, effaith yr hinsawdd, defnyddio adnoddau naturiol). Mae gan Simon ddiddordeb mewn cynyddu gwyddorau cymdeithas i gael gwell dealltwriaeth o’r buddion y mae pobl yn eu cael o fyd natur, a sut y gallai hyn newid gyda hinsawdd sy'n newid. https://msds.tools/ |
Dr Sonya Hanna Ysgol Busnes Bangor Ebost: s.hanna@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: brandio lleoedd a chyrchfannau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyd-greu, ymdeimlad o le, ymlyniad wrth le.
|
Mae Dr Sonya Hanna yn Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â gwahanol agweddau ar 'le', yn amrywio o frandio lleoedd a chyrchfannau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymlyniad wrth le, cyd-greu lle, a phensaernïaeth brand. Mae gan Sonya ddiddordeb mewn ehangu ei diddordebau ymchwil i ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd a phrojectau isadeiledd cysylltiedig ar randdeiliaid a thwristiaid lleoedd gan gynnwys eu rhyngweithio â lle, eu synnwyr o le a'u hymlyniad wrth le. Mae Sonya yn aelod o fwrdd golygyddol Journal of Place Management and Development, ac mae hefyd yn aelod o’r panel sy'n cyfrannu i’r The Place Brand Observer. |
Dr Corinna Patterson Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas E-bost: c.patterson@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: Globaleiddio, cymdeithaseg amgylcheddol, Cymuned, hunaniaeth, grymuso dinesig |
Mae Dr Corinna Patterson yn Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg, gyda diddordeb arbennig mewn globaleiddio, cymuned dinasyddiaeth, hunaniaeth, cydraddoldeb, 'hil', Cymdeithaseg amgylcheddol, a geo-wleidyddiaeth. Roedd ei PhD yn canolbwyntio ar wybodaeth ddinesig leol a byd-eang, ymgysylltu a grymuso, gan edrych hefyd ar berthynas pobl â lle, 'cymuned' a syniadau o berthyn. Mae Corinna hefyd wedi cymryd rhan mewn project ymchwil WISERD sy'n edrych ar gymdeithas sifil yng Ngogledd Orllewin Cymru, gan archwilio perthynas pobl â lle a chymuned. Ar hyn o bryd mae Corinna yn Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i’r Ysgol ac wrthi'n ysgrifennu modiwl trydedd flwyddyn fydd yn cael ei gynnig yn 2021/22 o'r enw 'Newid Hinsawdd a Gwleidyddiaeth Amgylcheddol' ac mae hefyd yn brif oruchwyliwr PhD a ariennir gan KESS II sydd ar hyn o bryd yn y cam ysgrifennu, yn archwilio effaith gymdeithasol cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol ledled Cymru. |
Norman Dandy Canolfan Syr Williams Roberts, Ysgol Gwyddorau Naturiol E-bost: n.dandy@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: cymdeithaseg amgylcheddol; daearyddiaeth; coedwigoedd; llywodraethu; tir |
Mae Dr Norman Dandy yn Uwch Gymrawd Ymchwil sy'n gweithio yn y gwyddorau cymdeithas amgylcheddol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar dir coedwig a bywyd gwyllt - yn benodol, y cysylltiadau gwleidyddol, moesegol a diwylliannol rhwng tir, pobl a rhywogaethau coedwig sy'n dylanwadu ar arferion rheoli. Ers y 10 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn ymchwilio i ddimensiynau cymdeithasol plâu a chlefydau coed yn y DU, gan gynnwys sut mae rheolwyr coedwigoedd, 'llunwyr polisi' ac eraill yn ymateb i'r bygythiadau hyn. Mae Norman yn Gyfarwyddwr Canolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts ym Mangor, ar ôl gweithio i'r Comisiwn Coedwigaeth (Ymchwil Coedwig) a Sefydliad Plunkett yn flaenorol. Nod y Ganolfan yw darparu fframwaith a fforwm ar gyfer gwyddor cynaliadwyedd rhyngddisgyblaethol ar y tir ledled y brifysgol ac mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allanol. |
Liz Morris-Webb Ysgol Gwyddorau Naturiol Ebost: harvestingtheseashore@bangor.ac.uk Geiriau Allweddol: ecoleg môr, gweithgareddau arfordirol, cysylltiad natur, lles dynol, ymdeimlad o le / perthyn, cadwraeth, polisi. |
Mae Liz Morris-Webb yn Ymchwilydd Ôl-ddoethurol rhyngddisgyblaethol mewn dimensiynau dynol amgylchedd y môr. Gyda dwy flynedd ar bymtheg fel ecolegydd môr, mae ymchwil Liz wedi'i hysbrydoli gan ddatrys penblethdodau cadwraeth rhwng pobl a natur, gan dynnu ar wyddorau cymdeithas. Mae ganddi ddiddordeb mewn sut a pham mae pobl yn rhyngweithio â'r amgylchedd, a sut y gellir meithrin y cysylltiadau hyn â natur i adeiladu cymunedau arfordirol, amgylcheddau a pholisïau cadwraeth mwy gwydn. Mae Liz yn credu bod deall sut mae pobl yn dibynnu ar eu harfordiroedd, am eu lle a'u lles, yn rhan hanfodol o ddatblygu cymunedau arfordirol sy'n gallu gwrthsefyll hinsawdd. Fe wnaeth ei PhD a ariannwyd gan KESS2 gysylltu rhai sy’n twrio am fwyd a phorthwyr a chasglwyr arfordirol â'u lles: ar gyfer anghenion sylfaenol, ymdeimlad o le, perthyn ac ar gyfer dimensiynau arbrofol llesiant. Mae hi hefyd wedi derbyn cyllid gan y Cyngor Prydeinig i ffurfio Cysylltiadau Ymchwil gydag ymchwilwyr o Frasil sy'n ceisio grymuso cymunedau arfordirol yn erbyn newid yn yr hinsawdd, gyda'r project a ddatblygwyd ar y cyd, 'Fishervoices: Expanding and connecting the voices of fisherwomen to address climate change’. Ar hyn o bryd, caiff Liz ei hariannu gan ECOSTRUCTURE (wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop), ac mae’n gweithio gyda rhai sy’n defnyddio cychod yn eu hamser hamdden i werthuso'r deunyddiau addysg gorau i annog gwell ymddygiadau bioddiogelwch i atal rhywogaethau anfrodorol ymledol rhag lledaenu. Why foraging and gathering are food for the soul (theconversation.com)
|
Ngoc Nguyen Ysgol Busnes Bangor
E-bost: abp980@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: ymddygiadau cynaliadwy, gosod nodau, emosiynau, hunanreolaeth ac effaith trwyddedu. |
Ar hyn o bryd mae Ngoc Nguyen yn fyfyriwr PhD mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor, gyda chefndir mewn ymddygiad defnyddwyr. Yn flaenorol, bu Ngoc yn gweithio ar brojectau am gynaliadwyedd ym maes twristiaeth a rheolaeth. Trefnwyd addysg diogelu'r amgylchedd i fyfyrwyr twristiaeth gan goleg twristiaeth Nha Trang, Arbed gwastraff a photensial economi bio-seiliedig yn Fietnam gan Stenden PRE Center, NHL Stenden o Wyddoniaeth Gymhwysol yn yr Iseldiroedd a'r Ysgol Dwristiaeth, Prifysgol Economeg Ho Chi Minh City. Yn ddiweddar, mae Ngoc wedi talu mwy o sylw i ymddygiadau cynaliadwy o safbwyntiau defnyddwyr a’r hyn sy’n eu hysgogi fel gosod nodau, emosiynau, hunanreolaeth ac effaith trwyddedu. Mae Ngoc bellach yn gweithio ar archwilio effaith ddilyniannol ymddygiadau cychwynnol sy'n gyson â nodau ar y tebygolrwydd o ddyfalbarhau â thrwyddedu mewn cyd-destunau cynaliadwy. Ar ben hynny, roedd gwahaniaethau unigol mewn nodweddion hunanreolaeth a phrofiadau emosiynol sy'n sail i'r broses hefyd wedi'u cynnwys yn ei hymchwiliad cyfredol.
|
Emma Rawlings Smith Ysgol Gwyddorau Addysgol E-bost: e.rawlingssmith@bangor.ac.uk Geiriau allweddol: addysg, lle, newid yn yr hinsawdd, ymdeimlad o le, Addysg ar gyfer Cynaliadwyedd |
Mae Dr Emma Rawlings Smith yn Ddarlithydd mewn Addysg yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys addysg athrawon, mentora, daearyddiaeth ysgolion, lle a'r cwricwlwm 11-18. Mae gan Emma ddiddordeb mewn ail-gyd-destunoli gwybodaeth o ddisgyblaeth i ddaearyddiaeth ysgol ac mae'n annog athrawon ysgol i ddefnyddio gwybodaeth ac ymchwil gyfoes o fewn y cwricwlwm. Mae wedi datblygu adnoddau ar gyfer athrawon a myfyrwyr sy'n cefnogi eu dysgu am ymchwil gyfoes ar newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd a lle. Mae gan Emma ddiddordeb mewn lle o safbwyntiau athrawon a myfyrwyr ysgol a hoffai archwilio syniadau ynglŷn ag addysgu a dysgu am le, sut mae lleoedd yn newid o ganlyniad i'r argyfwng hinsawdd ac effaith projectau cynaliadwyedd a arweinir gan fyfyrwyr. Mae Emma yn aelod o fwrdd golygyddol y Journal Teaching Geography, mae hwn yn gyfnodolyn proffesiynol sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad ar addysgu a dysgu daearyddiaeth. |