Gwybodaeth
Seminarau a Digwyddiadau
Mae'r gyfres seminarau’n cynnwys amrywiaeth o bynciau sy'n ymdrin â lleoedd a’r newid yn yr hinsawdd i ysgogi trafodaeth ryngddisgyblaethol yn y maes. Cynhelir y seminarau bob mis, amser cinio ddydd Mercher.
Gweithdy: Gwerth mannau gwyrdd ar gyfer iechyd a lles - Dydd Llun, Chwefror 26 2024
Trefnir gan yr Athro Thora Tenbrink a Dr Sofie Roberts (Prifysgol Bangor) ac Athro Laurence Jones (Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU).
Dydd Llun 26 Chwefror, 10am tan 3pm, Canolfan Arloesi Pontio, Bangor, Gwynedd.
Bydd cinio a lluniaeth yn cael ei weini.
Mae’r gweithdy hwn yn gyfle i ystyried y cysylltiad rhwng iechyd y cyhoedd a mannau gwyrdd lleol, gan rannu mewnwelediadau, canfyddiadau a safbwyntiau. Byddwn yn archwilio anghenion, blaenoriaethau, canfyddiadau a dewisiadau rhanddeiliaid gan gynnwys swyddogion y Cyngor Lleol a hwyluswyr mentrau cymunedol, ac yn trafod y rhain ochr yn ochr ag arbenigedd academaidd perthnasol.
Ein cwestiwn arweiniol ar gyfer y diwrnod yw:
“Beth mae pobl ar draws lefelau gwahanol o brofiad yn ei feddwl am reoli mannau gwyrdd ar lefel cyngor lleol, drwy bersbectif iechyd a lles?”
Mae nodau’r gweithdy’n cynnwys:
- Cysylltu themâu a syniadau am iechyd, sero net, a chyfranogiad cymunedol.
- Ystyried manteision mannau gwyrdd drwy ganolbwyntio ar iechyd a lles.
- Adnabod bylchau tystiolaeth allweddol, cwestiynau ymchwil a llwybrau gweithredu, i lywio prosiectau yn y dyfodol a fydd o fudd i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd trwy ymyriadau mannau gwyrdd mewn trefi a dinasoedd, wedi'u creu ar y cyd â rhanddeiliaid.
Byddwn yn trafod rôl mannau gwyrdd ar gyfer iechyd a lles mewn trefi a dinasoedd, ac yn rhannu ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd am atebion sy’n seiliedig ar natur sydd eisoes yn eu lle neu yn yr arfaeth ar draws rhanbarth Gogledd Cymru. Mae’n gyfle i fyfyrio a thrafod yr hyn yr ydych yn ei gynllunio neu’n ei wneud eisoes yn hyn o beth, beth yw eich anghenion, a pha fathau o fanteision iechyd a lles a all ddod o fannau gwyrdd. Bydd y gweithdy hwn yn ein galluogi i ddeall statws mewnwelediadau gwyddonol yn well o ran anghenion a safbwyntiau gwahanol randdeiliaid. Rydym yn gweld cyrff cyllido yn galw fwyfwy am ymchwil trawsddisgyblaethol ar heriau mawr hinsawdd ac iechyd cymdeithasol. Bydd yr anghenion ymchwil a nodwyd yn cael eu defnyddio tuag at gais am arian grant mawr, yn canolbwyntio ar fanteision iechyd a lles mannau gwyrdd mewn lleoliadau byd go iawn, gan ystyried barn cynghorau a chymunedau.
Mae llefydd yn gyfyngedig.
I'r rhai sy'n wynebu rhwystrau rhag mynychu, mae gennym arian i gefnogi costau teithio. Cysylltwch â s.a.roberts@bangor.ac.uk i drafod.
Manylion cyswllt
Dr Corinna Patterson, Darlithydd mewn Cymdeithaseg, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.
Os hoffech wybod mwy am y seminar neu os hoffech gynnig syniad neu roi cyflwyniad am bynciau cysylltiedig, ebostiwch c.patterson@bangor.ac.uk