Pwy ydym ni
Mae'r grŵp Llefydd Newid Hinsawdd yn cynnwys myfyrwyr PhD, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, darlithwyr, athrawon a staff ymchwil eraill o bob rhan o'r brifysgol, wedi'u cysylltu gan ein diddordeb mewn lle a newid yn yr hinsawdd. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd lle mae ein gweithgareddau'n cyd-fynd â'u hastudiaethau traethawd hir. Defnyddiwch ein hadran chwilio am gydweithiwr i archwilio diddordebau a sgiliau'r grŵp.
Mae’r ymchwilwyr sy'n ymwneud â’r grŵp Llefydd Newid Hinsawdd yn archwilio'r cysylltiad rhwng lleoedd a newid hinsawdd o sawl safbwynt:
- Ymchwil gymdeithasegol i gamau gweithredu cymunedol i warchod neu ddatblygu lleoedd ystyrlon, neu i werthoedd lleol sydd ynghlwm â lleoedd sydd dan fygythiad oherwydd newid yn yr hinsawdd, ac ati.
- Effeithiau seicolegol ymlyniad emosiynol ar ymddygiad cysylltiedig â'r hinsawdd, ac ati.
- Gwahaniaethau daearyddol rhwng lleoedd y rhoddir gwerth arnynt a lleoedd sy’n cael eu hesgeuluso yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd (mannau poblogaidd a mannau cudd) ac ati.
- Cynrychioliadau ieithyddol o le mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, dadansoddi disgwrs cyhoeddus a phersonol mewn perthynas ag ymgysylltiad lleol, ac ati.
- Effeithiau gwyddorau naturiol fel risg llifogydd, newid defnydd tir, newid risg i leoedd, ecosystemau neu dreftadaeth
- Swyddogaeth busnes a'r sector ariannol wrth newid ymddygiad buddsoddi, lliniaru risg neu addasu yn wyneb newid yn yr hinsawdd neu bolisi, e.e. targedau lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Barn artistig ar sut mae bygythiadau lleol i dreftadaeth yn effeithio ar ymdeimlad pobl o le
- Dealltwriaeth wyddonol ar sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar dreftadaeth leol, e.e. strwythurau adeiladu a dadfeiliad deunyddiau, lefel y môr yn codi ac erydu.
- Dealltwriaeth hanesyddol am sut mae ymdrechion lleol wedi llwyddo i ddiogelu lleoedd ystyrlon yn ystod cyfnodau heriol o newid, gan gynnwys bygythiadau yn yr hinsawdd
- Modelau Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol o sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar syniadau am leoedd sydd wedi'u hymgorffori'n unigol ac yn gymdeithasol